O tyred, Arglwydd, sâf wrth raid, Yn awr o blaid y gwàn: Mi soddaf mewn dyfnderoedd du Oni ddèli Di fi i'r làn. Mae nerth Dy râs yn llawer mwy Na'm beiau oll o'r bron; Dy hyfryd wên sy'n abl lladd Euogrwydd dàn fy mron. Ni all fy meiau, er eu rhif, A'u cynddeiriogrwydd cas, Eu sgil, eu dyfais faith, a'u grym I faeddu dim o'th ras. Mae ynot foroedd pur di-lŷth, Heb ddiffyg byth, na thrai, O gariad anghydmarol cu, Fyth fythoedd i barhau. O! tywallt hwn i'm henaid gwàn Sy'n fynych dàn ei boen, Yn methu credu i'r goncwest râd Yn ngwerthfawr waed yr Oen. - - - - - O tyred, Arglwydd, saif wrth raid Yn awr o blaid y gwan, Mi soddaf mewn dyfnderoedd du, Oni ddeli fi i'r lan. Mae ofnau yn finteioedd llawn, Rai creulawn iawn eu rhyw: Yn taeru yn fy wyneb gwan, Na feddaf ran yn Nuw. Af at yr orsedd fel yr wyf, Anfeidrol orsedd gras; Datguddiaf yno 'nghlwfau maith, A'm holl archollion cas. Mae nerth dy ras yn llawer mwy Na'm beiau oll o'r bron; Dy hyfryd wên sy'n gryf i lladd 'R euogrwydd tan fy mron. Mae angau, 'r bedd, ac uffern ddu, Yn hongian wrth dy groes; Gorchfygaist ti elynion fil Trwy ddyoddef angeu loes. 'Rwy'n dysgwyl wrth d'addewid bur, O'r bore hyd y nawn; Ac os caf brofi'r gloyw ddŵr, Mi fyddaf ddedwydd iawn.William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Af at yr orsedd fel yr wyf Er maint fy llygredd o bob rhyw Mae ofnau yn finteioedd llawn Nid oes o fewn i mi i gyd 'Rwy'n disgwyl wrth d'addewid bur Wel dyma gyfoeth gwerthfawr llawn Yn nyfnder profedigaeth ddu |
O come, Lord, stand at need, Now on the side of the weak: I shall sink in black waters Unless Thou hold me up. The strength of Thy grace is much greater Than all my faults altogether; Thy delightful smile is able to kill The guilt under my breast. Not all my faults, despite their number, And their hateful wrath, Their wiles, their vast scheming, and their force, can Beat thy grace at all. In Thee are pure, unfailing seas, Without never any deficiency, nor ebbing, Of dear, incomparable love, Forever and ever to endure. O pour this upon my weak soul Which is often under its pain, Failing to believe in the gracious conquest In the precious blood of the Lamb. - - - - - O come, Lord, stand at need Now on the side of the weak, I shall sink in black waters, Unless thou hold me up. Fears are full cohorts, Some of a very cruel kind: Insisting in my weak face, That I possess no portion in God. I shall go to the throne as I am, The infinite throne of grace; I shall reveal there my vast illnesses, And all my detestable wounds. The strength of thy grace is much greater Than all my faults altogether; Thy delightful smile is strong to kill The guilt under my breast. Death, the grave, and black hell are Hanging by thy cross; Thou didst overcome a thousand enemies Through suffering the throes of death. I a waiting on thy pure promise, From the morning until the evening; And if I get to experience the shining water, I shall be very happy.tr. 2018,20 Richard B Gillion |
|